Derbyn anifeiliaid o Aelod-wladwriaeth arall
32.—(1) Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall onid yw’r anifail wedi ei adnabod yn unol â’r canlynol—
(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
(2) Cyflawnir trosedd os tynnir ymaith neu os amnewidir dull adnabod gwreiddiol anifail sy’n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.