- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
9.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r canlynol—
(a)anifeiliaid a anwyd cyn 1 Ionawr 2016 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol;
(b)defaid a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016; ac
(c)geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.
(2) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon, onid yw’r dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi ei awdurdodi.
(3) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—
(a)9 mis o’r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu
(b)6 mis o’r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.
(4) Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.
(5) Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—
(a)y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y rhifau “826”; a
(b)rhif 12 digid a bennir gan Weinidogion Cymru;
a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.
10.—(1) Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, a rhaid i’r dull adnabod hwnnw fod yn electronig yn achos defaid.
(2) Rhaid i’r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn, sef y llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.
(3) Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a adnabuwyd o dan baragraff (1) rhaid i’r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu’r tag clust gwreiddiol oddi arno.
(4) Caiff ceidwad ailadnabod, o dan erthygl 9, unrhyw anifail a adnabuwyd o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda’r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—
(a)os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu
(b)os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau’r anifail.
(5) Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.
(6) Caiff ceidwad ailadnabod gafr a adnabuwyd o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n cynnwys dynodiad electronig.
11. Mae Rhan 3 o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009, yn y ffurf yr oedd yn bodoli ynddi yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn parhau’n gymwys i anifeiliaid a anwyd ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac eithrio, yn achos defaid y bwriedir eu cigydda cyn cyrraedd 12 mis oed, na fwriedir eu hallforio ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 gan ddefnyddio’r dull yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, y caniateir parhau i adnabod y defaid hynny yn unol â’r dull hwnnw tan 30 Mehefin 2017. Rhaid i’r anifail wedyn gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9, a rhaid tynnu’r tag clust anelectronig oddi arno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys