xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3) Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—
(a)pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a
(b)pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988(1) (newid rhestrau),
caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad pryd y mae’r newid yn dod yn effeithiol o dan y rheoliadau hynny.
(5) Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2015.
(6) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a)ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b)ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(8) Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o bryd i’w gilydd.
17. Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 2 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2015 neu cyn hynny.
Diwygiwyd adran 55 gan baragraffau 30 a 79 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), paragraff 1 o Atodlen 10 a pharagraff 67 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), paragraff 84 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19), a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28).