Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Dyfrffyrdd) (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 539 (Cy. 46)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Dyfrffyrdd) (Cymru) 2015

Gwnaed

4 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 64(3), 65(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

(1)

1988 p. 41. Diwygiwyd adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae adran 146(3) o Ddeddf 1988 yn darparu bod “prescribed”, yng nghyd-destun rheoliadau, yn golygu wedi ei ragnodi gan y rheoliadau.