- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 11, 79, 106 a 121
1. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2. Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—
(a)y ceisydd neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b)y ceisydd neu fyfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c)y ceisydd neu fyfyriwr yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)y ceisydd neu fyfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor, y ceisydd neu fyfyriwr, yn newid.
3. Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni’r gofyniad hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys