Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – y cyfrifiad terfynol
103.—(1) Penderfynir y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Mae’r swm sy’n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw’r astudio.
Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:
ac y mae i PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 90(2) a (3).
(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.
(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.
(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.
(9) Nid oes unrhyw elfen o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo’r dwysedd astudio yn llai na 50 y cant.