- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
115.—(1) Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.
(2) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 120, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â’r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—
(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—
(i)bwrsari gofal iechyd;
(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;
(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;
(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu
(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu
(b)os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.
(5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,
y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.
(7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.
(8) Ac eithrio pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 122(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o’i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).
(10) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—
(a)bod―
(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a
(iii)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.
(b)bod—
(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol;
(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
(iv)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.
(11) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(12) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(13) Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.
(14) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—
(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;
(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;
(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;
(d)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys