- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
125.—(1) Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau canlynol.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig—
sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013;
pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac
pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno.”
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn academaidd”, rhodder—
“ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw—
mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno; neu
mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “cwrs penben”, rhodder—
“ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—
cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd anrhydedd llawnamser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol llawnamser ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2006 ac nad yw ei hyd yn hwy na dwy flynedd (ac y mynegir hyd cwrs rhan-amser fel y cyfwerth llawnamser) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd anrhydedd rhan-amser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen rhan-amser neu gwrs gradd arferol rhan-amser y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd gyntaf dysgu o bell (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dysgu o bell dynodedig a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd anrhydedd dysgu o bell y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen dysgu o bell dynodedig neu gwrs gradd arferol dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;”;
(c)yn lle’r diffiniad o “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd”, rhodder—
“ystyr “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd” (“new eligible part-time student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014, ac eithrio—
myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014; neu
myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs rhan-amser hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 114 o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014;”.
(4) Yn rheoliad 76—
(a)ym mharagraff (8), yn lle’r geiriau “ym mharagraff (9)(a) neu (b)” rhodder “ym mharagraff (9)(a), (b) neu (c)”;
(b)ym mharagraff (9)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (b)(iv), yn lle “.” rhodder “;”; a
(ii)ar ôl is-baragraff (b)(iv), mewnosoder—
“(c)bod—
(i)y cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben;
(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;
(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (c)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a
(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (c)(ii).”
(5) Ym mharagraff (5) o reoliad 78—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “a” rhodder “neu”; a
(b)yn lle is-baragraff (b), rhodder—
“(b)os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs penben yr ymgymerir ag ef drwy ddysgu o bell, sy’n dilyn ymlaen o gwrs dysgu o bell dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012,
a phe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.”
(6) Yn rheoliad 93—
(a)ym mharagraff (7), yn lle’r geiriau “ym mharagraffau (8)(a) neu (b)” rhodder “ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c)”;
(b)ym mharagraff (8)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (b)(iv), yn lle “.” rhodder “;”; a
(ii)ar ôl is-baragraff (b)(iv), mewnosoder—
“(c)bod—
(i)y cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben;
(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;
(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (c)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a
(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (c)(ii).”
(7) Ar ddiwedd rheoliad 95, mewnosoder—
“(7) At ddibenion y Rhan hon, trinnir cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 fel pe bai’n dechrau cyn 1 Medi 2014—
(a)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn trosglwyddo iddo yn unol â rheoliad 114 o gwrs rhan-amser dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014; neu
(b)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig sy’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014.”
(8) Yn rheoliad 121(1), ar ôl “grant mewn perthynas â ffioedd”, mewnosoder “neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys