- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
30.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael o dan reoliadau 27 i 29 yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27;
(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28; ac
(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.
(2) Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—
A yw swm cyfanredol y canlynol—
incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;
incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac
yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a
B yw—
£1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;
£3,473 os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,632—
os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;
£5,797 os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(5) Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy na neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael yn daladwy.
(7) Os yw (A - B) yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(8) Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(9) Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(10) Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.
(11) Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;
(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 24(13).
(12) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—
(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b)pwy yw’r dibynyddion hynny;
(c)a yw’r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(13) Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(14) Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(15) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—
(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(16) Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys