- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
41.—(1) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;
(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;
(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac
(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.
(2) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.
(3) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.
(4) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2), pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac
(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.
(5) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys