- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—
(a)os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;
(b)os yw’n un o’r canlynol—
(i)cwrs llawnamser;
(ii)cwrs rhyngosod;
(iii)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon―
(aa)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(bb)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(cc)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; neu
(iv)cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 71(5) yn gymwys iddo;
(c)os nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig;
(d)os yw o leiaf—
(i)yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu
(ii)yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg;
(e)os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac
(f)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy’n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1).
(2) Nid yw cwrs, sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.
(4) Nid yw paragraff (1)(c) yn gymwys os bydd y person sy’n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â’r cwrs—
(a)yn fyfyriwr cymwys anabl; a
(b)yn ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.
(5) At ddibenion paragraff (1)—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac
(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2).
(6) Bernir bod cwrs y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—
(a)os yw’r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu’r cymhwyster cyfatebol; a
(b)os yw rhan o’r cwrs yn ddewisol.
(7) Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(8) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).
1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys