- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
80.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—
(a)pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(b)pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo yw—
(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;
(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 73(1)(b) neu reoliad 76 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.
(6) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 73(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 73.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys