- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
82.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—
(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a
(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
(2) Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;
(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno; a
(d)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys