- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
140. Mae’r Rhan hon—
(a)yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 4 o Ran 4 o DCauP 1993 (gwerthoedd trosglwyddo) ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno; a
(b)yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 5 o’r Rhan honno (ymadawyr cynnar: trosglwyddo symiau ariannol ac ad-dalu cyfraniadau)(1) ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno.
141. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 97 o DCauP 1993;
ystyr “cyfwerth ariannol gwarantedig” (“guaranteed cash equivalent”), mewn perthynas â chyfrifo gwerth trosglwyddiad o hawliau cronedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw cyfwerth ariannol y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant, fel y’i pennir mewn datganiad o hawlogaeth;
ystyr “datganiad o hawlogaeth” (“statement of entitlement”), mewn perthynas â hawliau cronedig aelod actif neu aelod gohiriedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw datganiad gan y rheolwr cynllun o gyfwerth ariannol neu werth trosglwyddiad clwb y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant;
mae i “dyddiad gwarant” (“guarantee date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 144 (datganiad o hawlogaeth);
ystyr “gwerth trosglwyddiad” (“transfer value”), mewn perthynas â hawliau cronedig i gael buddion ac eithrio pensiwn enilledig cronedig sy’n destun trosglwyddiad clwb, yw—
yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan y cynllun hwn, swm sy’n hafal i—
cyfwerth ariannol gwarantedig y buddion hynny, neu
y cyfwerth ariannol gwarantedig ynghyd ag unrhyw gynnydd sy’n daladwy o dan reoliad 146 (cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb), a
yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan gynllun pensiwn arall, swm—
a benderfynir gan actiwari cynllun y cynllun hwnnw, a
a bennir mewn datganiad o hawliau cronedig a ddarperir gan reolwr cynllun y cynllun hwnnw; ac
ystyr “gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value”), mewn perthynas â swm pensiwn enilledig cronedig o dan y cynllun hwn neu o dan gynllun clwb arall, yw swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun—
yn unol â’r trefniadau trosglwyddiadau clwb, a
drwy gyfeirio at y canllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth at y diben hwn, sydd mewn defnydd ar y dyddiad a ddefnyddir ar gyfer y cyfrifiad.
Mewnosodwyd Pennod 5 o Ran 4 o DCauP 1993 gan adran 264 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys