Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2Llywodraethu

Rheolwr cynllun

4.—(1Mae awdurdod yn gyfrifol am reoli a gweinyddu’r cynllun hwn, ac unrhyw gynllun statudol sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn(1), mewn perthynas ag unrhyw berson y mae’n awdurdod priodol ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yr awdurdod priodol mewn perthynas â pherson—

(a)sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn; neu

(b)sydd â hawl i gael unrhyw fudd mewn cysylltiad â pherson sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn,

yw’r awdurdod a oedd yn cyflogi’r aelod hwnnw ddiwethaf, tra oedd yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(3Yr awdurdod priodol mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn yw’r awdurdod a oedd yn gyfrifol am gyfrif pensiwn yr aelod â debyd pensiwn ar ddyddiad effeithiol y gorchymyn rhannu pensiwn.

(4Yn y cynllun hwn, cyfeirir at yr awdurdod priodol fel y rheolwr cynllun.

Byrddau pensiynau lleol: sefydlu

5.—(1Rhaid i bob rheolwr cynllun sefydlu bwrdd pensiynau (“bwrdd pensiynau lleol”) i fod yn gyfrifol am gynorthwyo’r rheolwr cynllun—

(a)i sicrhau y cydymffurfir ag—

(i)y Rheoliadau hyn;

(ii)unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig, ac â’r ddarpariaeth o fuddion o dan y cynllun hwn;

(iii)unrhyw ofynion a osodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig;

(b)i sicrhau y llywodraethir ac y gweinyddir y cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon yn lleol.

(2Caiff rheolwr cynllun benderfynu pa weithdrefnau fydd yn gymwys i fwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau a thalu treuliau.

(3Mae gan fwrdd pensiynau lleol y pŵer i wneud unrhyw beth a gynlluniwyd i hwyluso, neu sy’n ffafrio neu’n gysylltiedig â chyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau.

Bwrdd pensiynau lleol: aelodaeth

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i bob rheolwr cynllun benderfynu ar—

(a)aelodaeth y bwrdd pensiynau lleol;

(b)y modd y caniateir penodi a diswyddo aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol;

(c)telerau penodi aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys parhad eu penodiad.

(2Rhaid i fwrdd pensiynau lleol gynnwys niferoedd cyfartal, sef dim llai na 4, o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau(2) ac at y dibenion hyn rhaid i’r rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod person a benodir—

(a)fel cynrychiolydd cyflogwr, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli cyflogwyr ar y bwrdd pensiynau lleol;

(b)fel cynrychiolydd aelodau, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli aelodau ar y bwrdd pensiynau lleol.

(3Drwy gydol cyfnod penodiad person a benodwyd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, rhaid i reolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod yr aelod yn parhau i feddu’r gallu i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ar fwrdd pensiynau lleol.

(4Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (2).

(5Rhaid i berson sy’n aelod o fwrdd pensiynau lleol a benodwyd i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (3).

(6Caiff y rheolwr cynllun benodi personau, nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r bwrdd pensiynau lleol ac unrhyw is-bwyllgor o’r bwrdd pensiynau lleol.

(7Rhaid i nifer yr aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol fod yn llai na nifer y cynrychiolwyr cyflogwyr, ac yn llai hefyd na nifer y cynrychiolwyr aelodau.

(8Bydd aelod ymgynghorol o’r bwrdd pensiynau lleol yn dal ei swydd ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(9Ni chaiff aelod neu swyddog o awdurdod, sy’n gyfrifol am gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn, (ac eithrio unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â bwrdd pensiynau lleol neu Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru) fod yn aelod o fwrdd pensiynau lleol.

Byrddau pensiynau lleol: gwrthdrawiad buddiannau

7.—(1Rhaid i bob rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni nad oes gan unrhyw berson, sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol, fuddiannau sy’n gwrthdaro(3).

(2Rhaid i reolwr cynllun fodloni ei hunan o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau’r bwrdd pensiynau lleol fuddiannau sy’n gwrthdaro.

(3Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun, ddarparu i’r awdurdod hwnnw y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yr awdurdod at ddibenion paragraff (1).

(4Rhaid i berson sydd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yw awdurdod hwnnw at ddibenion paragraff (2).

Byrddau pensiynau lleol: canllawiau a chyngor

8.  Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i’r canlynol—

(a)canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â byrddau pensiynau lleol; a

(b)cyngor a roddir gan Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun yn effeithiol ac effeithlon;

(c)codau ymarfer a ddyroddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau o dan adran 90A (codau ymarfer: cynlluniau pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus) o Ddeddf Pensiynau 2004(4).

Byrddau pensiynau lleol: cyhoeddi gwybodaeth

9.—(1Rhaid i reolwr cynllun gyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ynglŷn â’i fwrdd pensiynau lleol—

(a)pwy sy’n aelodau o’r bwrdd;

(b)cynrychiolaeth aelodau’r cynllun ar y bwrdd; ac

(c)y materion sy’n dod o fewn cyfrifoldeb y bwrdd.

(2Rhaid i reolwr cynllun gadw’n gyfredol yr wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1).

Bwrdd cynghori’r cynllun: sefydlu

10.—(1Bydd bwrdd cynghori ar gyfer y cynllun (“Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru”).

(2Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor, mewn ymateb i gais gan Weinidogion Cymru, ar y materion canlynol—

(a)dymunoldeb gwneud newidiadau i’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a

(b)unrhyw fater arall yr ystyria’n berthnasol o ran gweithredu’r cynllun hwn yn effeithiol ac effeithlon.

(3Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol hefyd am ddarparu cyngor i reolwyr cynllun a byrddau pensiynau lleol mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon.

(4Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, caiff Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru benderfynu ar ei weithdrefnau ei hunan, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau, talu lwfansau mynychu rhesymol ac unrhyw dreuliau rhesymol mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, fel yr ystyrir yn angenrheidiol ym marn y Bwrdd.

Bwrdd cynghori’r cynllun: aelodaeth

11.—(1Bydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn cynnwys cadeirydd ac o leiaf ddau, ond dim mwy na 12 person, sydd i’w penodi gan Weinidogion Cymru.

(2Wrth benderfynu pa un ai i wneud penodiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb cael niferoedd cyfartal o bersonau yn cynrychioli buddiannau cyflogwyr cynllun a phersonau yn cynrychioli buddiannau aelodau.

(3Bydd aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(4Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r Bwrdd, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd ac unrhyw is-bwyllgor o’r Bwrdd.

(5Bydd aelod ymgynghorol o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(6Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd i fod yn aelodau o is-bwyllgorau o’r Bwrdd.

(7Bydd aelod o is-bwyllgor o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

Bwrdd cynghori’r cynllun: gwrthdrawiad buddiannau

12.—(1Cyn penodi unrhyw berson i fod yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni nad oes gan y person hwnnw fuddiannau sy’n gwrthdaro(5).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru fuddiannau sy’n gwrthdaro.

(3Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol at ddibenion paragraff (1).

(4Rhaid i berson sydd yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (2).

Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru: canllawiau

13.  Rhaid i Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arfer gan y Bwrdd ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Dirprwyo

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo.

(2Caiff y rheolwr cynllun ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo, i’r cyfryw bersonau neu gyflogeion y cyfryw berson a awdurdodir yn y cyswllt hwnnw gan y rheolwr cynllun.

(1)

Gweler adran 4(6) o Ddeddf 2013 sy’n nodi o dan ba amgylchiadau yr ystyrir bod cynlluniau pensiwn statudol yn “connected”.

(2)

Gweler adran 5(6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 am ddiffiniadau o’r termau hyn.

(3)

Gweler adran 5(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.

(4)

2004 p. 35. Mewnosodwyd adran 90A gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

(5)

Gweler adran 7(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill