Cyfraniadau aelodau
119.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau), rhaid i aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun, mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun, ar y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol a gaiff yr aelod hwnnw yn y cyfnod tâl sy’n cynnwys 1 Ebrill ar gyfer y gyflogaeth honno (neu, yn achos aelod actif y mae ei aelodaeth yn cychwyn ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol y mae’r aelod yn ei gael ar ddechrau’r aelodaeth honno).
(2) Mae’r gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i gyflogaeth gynllun fel y’i pennir yn y tabl canlynol, gyda’r gyfradd gyfraniadau a bennir yn y golofn briodol ar gyfer y flwyddyn i’w hystyried yn gymwysadwy i’r ystod tâl pensiynadwy a bennir yn y golofn gyntaf, y mae tâl pensiynadwy blynyddol yr aelod actif, wedi ei dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf gyfan, yn perthyn iddo:
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2015-31 Mawrth 2016 |
---|---|
Hyd at £27,000 | 10.0% |
£27,001 i £50,000 | 12.2% |
£50,001 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017 |
---|---|
Hyd at £27,270 | 10.0% |
£27,271 i £50,500 | 12.5% |
£50,501 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018 |
---|---|
Hyd at £27,543 | 10.5% |
£27,544 i £51,005 | 12.7% |
£51,006 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau o 1 Ebrill 2018 ymlaen |
---|---|
Hyd at £27,818 | 11.0% |
£27,819 i £51,515 | 12.9% |
£51,516 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
(3) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, fod yn dâl cyfeirio’r diffoddwr tân hwnnw.
(4) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser fod yn swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser llawn sydd â rôl gyfatebol a hyd gwasanaeth cyfwerth.
(5) Pan fo newid yn digwydd mewn cyflogaeth gynllun, neu unrhyw newid perthnasol sy’n effeithio ar dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod blwyddyn ariannol, a swm diwygiedig y tâl pensiynadwy yn dod o fewn ystod cyfradd gyfraniadau gwahanol, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu bod rhaid cymhwyso’r gyfradd honno, a rhaid iddo roi gwybod i’r aelod pa gyfradd gyfraniadau a gymhwysir ac o ba ddyddiad y’i cymhwysir.
(6) Pan fo’r rheolwr cynllun wedi penderfynu o dan baragraff (5) fod cyfradd gyfraniadau wahanol yn gymwys, rhaid i’r aelod dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd honno, ar y tâl pensiynadwy y mae’r aelod hwnnw’n ei gael ar yr adeg honno.
(7) At y diben o ganfod pa gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid diystyru unrhyw ostyngiad mewn tâl pensiynadwy sy’n digwydd o ganlyniad i unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol—
(a)mwynhad, neu fwynhad tybiedig, gan yr aelod o unrhyw hawlogaeth statudol yn ystod unrhyw gyfnod i ffwrdd o’i waith;
(b)absenoldeb cysylltiedig â phlentyn;
(c)absenoldeb gyda chaniatâd;
(d)absenoldeb salwch;
(e)absenoldeb oherwydd anaf;
(f)absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;
(g)absenoldeb oherwydd anghydfod undebol; neu
(h)amgylchiadau a bennir gan y rheolwr cynllun mewn achos penodol.
(8) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniadau aelod” (“member contributions”) yw cyfraniadau y mae aelod actif yn eu talu, o dan y rheoliad hwn a rheoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau o’r gwaith).