- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
142.—(1) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau cronedig i gael buddion aelod actif neu aelod gohiriedig o’r cynllun hwn.
(2) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio i’r canlynol—
(a)cynllun pensiwn cofrestredig nad yw’n gynllun cysylltiedig; neu
(b)trefniant pensiwn sy’n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys at ddibenion Rhan 4 o DC 2004 (gweler adran 169(2) o’r Ddeddf honno)(1).
(3) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau sy’n briodoladwy (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn.
(4) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn defnyddio taliad trosglwyddo mewn unrhyw ffordd ac eithrio ffordd a bennir yn adran 95(2) o DCauP 1993(2).
(5) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad gwerth trosglwyddiad clwb ac eithrio yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r aelod yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun y gwneir y taliad iddo.
(6) Rhaid gwneud y cyfan o’r taliad trosglwyddo yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.
(7) Os yw adran 96(2) o DCauP 1993 (ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau neu drefniadau penodol sy’n derbyn, nad ydynt yn alluog a bodlon i dderbyn taliad trosglwyddo, ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau eraill yr aelod) yn gymwys(3), caniateir eithrio o’r taliad trosglwyddo unrhyw fuddion sy’n briodoladwy i’r canlynol—
(a)hawliau cronedig yr aelod i leiafswm pensiwn gwarantedig; a
(b)hawliau cronedig yr aelod sy’n briodoladwy i wasanaeth mewn cyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997.
Diwygiwyd adran 169(2) gan adran 53(3) o Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29).
Diwygiwyd adran 95(2) gan O.S. 2001/3649.
Diwygiwyd adran 96(2) gan Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22), Atodlen 7, paragraff 1; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 13, paragraff 1; Deddf Pensiynau 1995 (p. 26), Atodlen 5, paragraff 63(a) ac O.S. 2011/1730.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys