Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif

155.—(1Yn achos aelod actif y peidiodd â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gydag un cyflogwr ac a ddechreuodd mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr; ac

(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(2Pan fo aelod gohiriedig wedi dechrau mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, rhaid i’r aelod ofyn i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r cyfnod cynharaf o wasanaeth pensiynadwy ddarparu i’r aelod dystysgrif sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr hwnnw;

(c)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; a

(d)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(3Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1) a’r rheolwr cynllun wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif; ac

(c)manylion dewisiad pensiwn ychwanegol yr aelod os nad yw’r cyfnod cyfraniadau wedi dod i ben.

(4Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (2), neu pan fo aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol ar ôl dechrau cyflogaeth gynllun yn dilyn bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n hwy na phum mlynedd, a’r rheolwr cynllun mewn perthynas â chyfnod blaenorol o wasanaeth pensiynadwy wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun, os gofynnir iddo gan yr aelod, ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; ac

(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(5Pan fo gan aelod actif ddau neu ragor o gyfrifon aelod actif gyda dau neu ragor o reolwyr cynllun gwahanol, a’r aelod yn bwriadu gwneud, neu wedi gwneud, dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ofyn am dystysgrif gan y rheolwr cynllun a sefydlodd y cyfrif pensiwn ychwanegol er mwyn gallu darparu’r dystysgrif honno i reolwr cynllun arall (B) mewn cysylltiad â chyfrif aelod actif gwahanol, fel y gellir trosglwyddo’r cofnodion i gyfrif pensiwn ychwanegol a sefydlir gan B.

(6Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif o dan y rheoliad hwn—

(a)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod actif yn gadael cyflogaeth gynllun; neu

(b)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod gohiriedig yn hysbysu’r rheolwr cynllun o’r gyflogaeth gynllun newydd.