Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn
195. Rhaid i’r rheolwr cynllun roi i aelod sydd ar fin cychwyn cyfnod o absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ddatganiad sy’n nodi—
(a)tâl pensiynadwy tybiedig yr aelod hwnnw tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;
(b)y gyfradd cyfraniadau aelod a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw;
(c)manylion unrhyw daliadau sydd i’w talu gan y cyflogwr i’r aelod tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; a
(d)y cyfraniad cyflogwr a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.