Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 631 (Cy. 51)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015

Gwnaed

9 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2);

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3); ac

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(4).

Diwygio Rheoliadau 1986

3.  Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “31 March 2015” rhodder “31 March 2016”.

Diwygio Rheoliadau 1997

4.  Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “31 March 2015” rhodder “31 March 2016”.

Diwygio Rheoliadau 2007

5.  Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007, yn lle “31 Mawrth 2015” rhodder “31 Mawrth 2016”.

Dirymu

6.  Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014(5) wedi eu dirymu.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1986/975) (“Rheoliadau 1986”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (1997/818) (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (2007/1104 (Cy. 116)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1986 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (2012 p. 5) (“Deddf 2012”).

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1997 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2007 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 (2014/460 (Cy. 53)) (“Rheoliadau 2014”).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1986/975 fel y’i diwygiwyd.

(3)

O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.

(4)

O.S. 2007/1104 (Cy. 116) fel y’i diwygiwyd.