Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fo corff yn gohebu
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn.
Safon 2:

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad A,

(b)

gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)

anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd
Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—

(a)

yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny;

(b)

yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny.

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)
Safon 4:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5:Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.
Safon 6:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau swyddogolsy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau
Safon 8:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.
Safon 9:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 10:Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol).
Safon 11:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12:Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 13:Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.
Safon 14:Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 15:Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 16:Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 17:Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff
Safon 18:Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg yn ei gyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).
Safon 19:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 20:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff
Safon 21:Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg; ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 22:Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.
3Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall
Safon 23:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 24:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.
Safon 24A:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
Safon 24B:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
Safon 25:

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi—

(a)

gofyn i A a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a

(b)

os yw A yn eich hysbysu ei fod yn dymuno hynny, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 26:Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, a bod y cyfarfod yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu A y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.
Safon 26A:

Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)

os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (“A”) a wahoddwyd, a

(b)

os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

Safon 26B:

Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)

os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (“A”) a wahoddwyd, a

(b)

os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 27:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 27A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 27B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 27C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 27CH:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 27D:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
Safon 28:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, rhaid ichi—

(a)

gofyn i’r unigolyn hwnnw neu i bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a

(b)

os yw’r unigolyn hwnnw, neu os yw pob un o’r unigolion hynny, yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 29:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, rhaid ichi—

(a)

gofyn i’r unigolyn hwnnw neu i bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

(b)

hysbysu’r unigolyn (neu’r unigolion hynny) y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.

Safon 29A:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)

os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod,

(b)

os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, ac

(c)

os oes o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

Safon 29B:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)

os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod,

(b)

os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, ac

(c)

os oes o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

4Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 30:Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 31:Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 32:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)

os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 33:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 34:Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd hwnnw’n cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
5Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 35:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 36:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
6Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 37:Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd hysbysebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
7Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 38:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 39:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
8Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau
Safon 40:Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg.
Safon 41:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)

agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymwneud â chyfarfod o fwrdd rheoli neu gabinet;

(b)

agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd.

Safon 42:Rhaid i unrhyw drwydded neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 43:Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg.
Safon 44:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)

polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;

(b)

canllawiau a chodau ymarfer;

(c)

papurau ymgynghori.

Safon 45:Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 46:Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.
Safon 47:

Os byddwch yn llunio dogfen at ddefnydd y cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 48:Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 49:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.
9Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni
Safon 50:Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei llunio at ddefnydd y cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 50A:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.
Safon 50B:Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).
Safon 51:Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.
10Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corf
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 52:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 53:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 54:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 55:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 56:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 57:Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
11Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol

Safon 58:

Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 59:

Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
12Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth
Safon 60:Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.
13Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff
Safon 61:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 62:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
Safon 63:Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
14Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff.
Safon 64:Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 65:Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg).
Safon 65A:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a—

(a)

bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu

(b)

eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg.

Safon 66:Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 67:Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
Safon 68:Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny.
15Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau swyddogol
Safon 69:Rhaid i unrhyw hysbysiad swyddogol yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 70:Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad swyddogol sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
16Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 71:Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 72:Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 72A:Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 73:Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 74:

Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 75:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.
17Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau
Safon 76:Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 77:Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 77A:Rhaid ichi beidio â thrin tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).
Safon 78:Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 79:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 80:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.
18Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 81:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 82:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
19Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 83:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
20Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 84:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 85:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 86:Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan.
21Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff
Safon 87:Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

22Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

TABL 1

RhesColofn 1Colofn 2
Prif safonSafon ddibynnol
Ateb gohebiaeth
(1)Safon 1Safon 7
Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd
(2)Safon 3Safon 6
Gohebu â sawl person
(3)afon 4Safon 6
Safon 7
Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
(4)Safon 5Safon 6
Safon 7
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
(5)Safon 7Safon 1
Cael galwadau ffôn
(6)Safon 9Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 10
Safon 11
Cael galwadau ffôn
(7)Safonau 10 neu 11Safon 9
Safon 14
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg
(8)Safon 14Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 10
Safon 11
a hefydSafon 16, aSafon 17
Cyfarfodydd ag un person
(9)Safon 24Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 24A
Safon 24B
Cyfarfodydd ag un person
(10)Safonau 24A neu 24BSafon 24
Cyfarfodydd ag un person
(11)Safon 26Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 26A
Safon 26B
Cyfarfodydd ag un person
(12)Safonau 26A neu 26BSafon 26
Cyfarfodydd â mwy nag un person
(13)Safon 27Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 27A
Safon 27B
Safon 27C
a hefyd un neu ragor o’r canlynol:
Safon 27CH
Safon 27D
Cyfarfodydd â mwy nag un person
(14)Safonau 27A, 27B, 27C, 27CH neu 27DSafon 27
Cyfarfodydd â mwy nag un person
(15)Safon 29Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 29A
Safon 29B
Cyfarfodydd â mwy nag un person
(16)Safonau 29A neu 29BSafon 29
Cyfarfodydd cyhoeddus
(17)Safon 30Safon 33
Cyfarfodydd cyhoeddus
(18)Safon 33Safon 30
Dogfennau
(19)Safonau 40, 41, 42, 43, 44, 45, neu 47Safon 48
Safon 49
Ffurflenni
(20)Safon 50Safon 50A
Safon 50B
Gwefannau
(21)Safonau 52, 53 neu 54Safon 55
Arwyddion
(22)Safon 61 neu 62Safon 63
Derbynfa
(23)Safon 64Safon 67
Safon 68
Derbynfa
(24)Safon 65Safon 65A
Derbynfa
(25)Safon 66Safon 67
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa
(26)Safon 67Un neu ragor o’r canlynol:
Safon 64
Safon 66
Grantiau
(27)Safon 72Safon 72A
Safon 75
Grantiau
(28)Safon 73 neu 74Safon 72
Safon 72A
Contractau
(29)Safon 77Safon 77A
Safon 80
Contractau
(30)Safon 78 neu 79Safon 77
Safon 77A

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

23Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
24

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)

cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

25Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
26

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

27At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
28Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso rhifau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
29

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau), 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) a 76 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)

fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

30At ddiben safonau 40, 41, 44, 47 a 50, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfenau neu ddeunyddiau nad yw ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).
31

(1Nid yw safonau 50, 50A a 50B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3Y ffurflenni yw—

(a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 137A, 138 a 139 mewn perthynas â recriwtio);

(b)ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 71 i 75 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau);

(c)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tender i gontractio gyda chorff (gweler safonau 76 i 80 mewn perthynas â thendro am gontract).

32Nid yw safonau 40, 47, 48 a 49 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
33Nid yw safon 45 yn gymwys i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff.
34

Nid yw safonau 52 i 56 (gwefannau) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 40 i 49 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).

35

(1At ddiben safon 57, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2Nid yw safon 57 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

36

At ddiben safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) a safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)

pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

37

(1Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2Nid yw safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

38

Nid yw safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 40 i 49 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

39At ddiben safon 60 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
40

At ddibenion safonau 64 i 68 (derbyn ymwelwyr)—

(a)

ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau;

(b)

ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw;

(c)

mae “lleoliadau gwasanaeth” yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau celfyddydau, canolfannau cyngor a chanolfannau galw heibio.

41At ddibenion safonau 7, 69 a 70 ystyr “hysbysiad swyddogol” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi er mwyn rhoi gwybod i bersonau am weithgareddau cyflenwi gwasanaethau neu newidiadau i weithgareddau cyflenwi gwasanaethau’r corff, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau swyddogol a ragnodir gan ddeddfiad.
42

At ddibenion safon 76 (gwahoddiad i dendro)—

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(2Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)maint y deunydd;

(c)lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

43

(1At ddibenion safon 83, mae’r cyfeiriad at gorff yn cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 83 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

44At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad.
45

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)

Deddf Seneddol; neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill