- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os, yn ystod achos ar gais o dan adran 32(1) o’r Ddeddf (gorchmynion ad-dalu rhent), daw i sylw’r awdurdod mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd y mae’r cais yn ymwneud ag ef y gall fod budd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu nad oedd yn briodol daladwy.
(2) Caiff yr awdurdod wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i ddiwygio ei gais drwy roi—
(a)yn achos budd-dal tai, yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o’r swm hwnnw y mae’n credu ei bod yn briodol daladwy;
(b)yn achos dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, yn lle’r swm y cyfeirir ato yn adran 33(2)(a) o’r Ddeddf y credid yn wreiddiol ei fod yn gymwys, y swm y credir bellach ei fod yn gymwys (os yw’n wahanol).
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2)—
(a)mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006(1) neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(2) (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach); a
(b)mae dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(3) (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys