xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth oni bai bod—
(a)yr amrywogaeth wedi ei rhestru yn y Rhestr Genedlaethol o amrywogaethau rhywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol; a
(b)y tatws hadyd hynny wedi eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i berson sy’n bwriadu cynhyrchu tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth ddarparu i Weinidogion Cymru, cyn gwneud hynny, ar y ffurf honno ac yn y modd hwnnw sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, fanylion ysgrifenedig am faint a lleoliad yr ardal sydd i’w defnyddio i gynhyrchu’r had hwnnw.
(3) At ddibenion Erthyglau 14 a 15(2) o Gyfarwyddeb 2008/62/EC, caiff Gweinidogion Cymru bennu mwyafswm y tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth y caniateir ei farchnata mewn unrhyw dymor cynhyrchu penodol a chânt bennu mwyafsymiau gwahanol ar gyfer personau gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o bersonau.
(4) Ni chaiff swm y tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth sy’n cael ei farchnata gan berson fod yn fwy nag unrhyw fwyafswm a bennir o dan baragraff (3) mewn perthynas â’r person hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy’n marchnata tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth ddarparu i Weinidogion Cymru, os cânt gais ysgrifenedig i wneud hynny, fanylion ysgrifenedig am swm ac amrywogaeth y tatws hadyd a osodir ar y farchnad yn ystod pob tymor cynhyrchu.