Labelu cynhyrchion caseinLL+C
6.—(1) Heb leihau effaith darpariaethau FIC, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch casein oni bai ei fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r manylion a ganlyn—
(a)enw’r cynnyrch casein hwnnw fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 ac, yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(b)yn achos cynhyrchion casein sy’n cael eu gwerthu fel cymysgeddau—
(i)y geiriau “mixture of” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau;
(ii)yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(iii)yn achos cymysgeddau sy’n cynnwys caseinadau bwytadwy, y cynnwys protein;
(c)pwysau net y cynnyrch casein, wedi ei fynegi mewn cilogramau neu gramau;
(d)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredydd busnes bwyd y marchnetir y cynnyrch o dan ei enw neu ei enw busnes, neu, os nad yw’r gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi ei sefydlu yn [F1y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig];
(e)yn achos cynnyrch casein wedi ei fewnforio o [F2drydedd wlad], enw gwlad tarddiad y cynnyrch; ac
(f)lot adnabod y cynnyrch casein neu’r dyddiad cynhyrchu.
(2) Rhaid i’r manylion y mae paragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol fod yn hawdd i’w gweld, yn glir i’w darllen, yn annileadwy ac wedi eu rhoi yn Saesneg, naill ai yn unig neu yn ogystal ag unrhyw iaith arall.
(3) Caniateir rhoi’r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii), (c), (d) ac (e) mewn dogfen sy’n cyd-fynd â’r cynnyrch.
(4) Heb leihau effaith darpariaethau FIC, pan fo cynnwys protein llaeth unrhyw gynnyrch casein dros y lleiafswm a nodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw—
(a)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 1 mewn perthynas â chaseinau asid bwytadwy;
(b)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â chaseinadau bwytadwy; neu
(c)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â chasein cywair llaeth bwytadwy,
caiff person farcio’r ffaith ar becyn, label neu gynhwysydd y cynnyrch hwnnw.
(5) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible acid casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein asid bwytadwy”.
(6) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible caseinate” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “caseinad bwytadwy”.
(7) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible rennet casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein cywair llaeth bwytadwy”.
(8) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu â “mixture of” yn unol â pharagraff (1)(b)(i) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “cymysgedd o” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau.
[F3(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(1)(d) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 6(1)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(a)(ii)
F3Rhl. 6(9) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)