Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016

Rheoliad 2

ATODLEN 3LL+CSafonau sy’n gymwys i gaseinau cywair llaeth bwytadwy

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)

1. Ffactorau hanfodol o ran cyfansoddiad

1Uchafswm cynnwys lleithedd12% yn ôl y pwysau
2Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych84% yn ôl y pwysau
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth95% yn ôl y pwysau
3Uchafswm cynnwys braster llaeth2% yn ôl y pwysau
4Uchafswm cynnwys lludw (yn cynnwys P2O5)7,5% yn ôl y pwysau
5Uchafswm cynnwys lactos anhydrus1% yn ôl y pwysau
6Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi)15 mg mewn 25 g

2. Halogyddion

Uchafswm cynnwys plwm0,75 mg/kg

3. Amhureddau

Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed)

dim mewn

25 g

4. Cymhorthion prosesu

  • cywair llaeth sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008(1);

  • ensymau tolchi llaeth eraill sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008.

    5. Nodweddion organoleptig

    1.AroglDim aroglau estron
    2.YmddangosiadLliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn.
(1)

OJ Rhif L 354, 3.12.2008, t 7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 dyddiedig 12 Tachwedd 2012.