Llanilltud Faerdref, Tyn-y-Nant a Thref Llantrisant – newidiadau i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol
8. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G (ward Tyn-y-Nant a ward Tref Llantrisant)—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;
(b)yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.