- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
11 | (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1); (b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2); (ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006. |
12 | At ddibenion safonau 117, 118 a 119 (mewnrwyd corff), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw, maint, ffont, a fformat unrhyw destun); (b) pryd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar y fewnrwyd; ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i’r deunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â’r deunydd Saesneg, nac ar dudalen a fydd yn debygol o agor cyn y fersiwn Saesneg gyfatebol o’r dudalen. |
13 | At ddibenion safonau 133A (recriwtio) a 137 (arwyddion mewnol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi’r deunydd. |
14 | At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i gyhoeddi, darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid cyhoeddi, darparu neu arddangos deunydd yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon). |
15 | Nid yw safonau 117 i 120 (y fewnrwyd) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar y fewnrwyd, deunydd hysbysebu ar y fewnrwyd, na chlipiau fideo a sain ar y fewnrwyd (gweler safonau 101 i 107 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar fewnrwyd corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod). |
16 | At ddibenion safonau 132 a 132A yn unig— (a) mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus; (b) ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus. |
17 | Nid yw safon 140 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys