Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).

Mae adran 25 o’r Mesur yn darparu bod rhaid i berson gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir, a thra bodlonir, chwe amod. Amod 1 yw bod y person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau. Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i’r person. Nid yw’r amodau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

Mae adran 33 o’r Mesur yn darparu bod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw’r person (a) yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8. Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw’r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5. Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw’r person (a) yn cael ei bennu yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 6 (“y tabl yn Atodlen 6”), neu (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno. Nid yw Atodlenni 7 ac 8 yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

Mae adran 36 yn darparu bod safon yn gymwysadwy i berson os yw’r safon yn perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y person yn y tabl yn Atodlen 6. Mae pob un o’r canlynol yn ddosbarth o safonau—

(i)safonau cyflenwi gwasanaethau,

(ii)safonau llunio polisi,

(iii)safonau gweithredu,

(iv)safonau hybu, a

(v)safonau cadw cofnodion.

Mae adran 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5, neu gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5.

Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol—

(i)safonau cyflenwi gwasanaethau;

(ii)safonau llunio polisi;

(iii)safonau gweithredu; a

(iv)safonau cadw cofnodion.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur drwy—

(a)mewnosod personau newydd yn Atodlen 6 a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob person;

(b)tynnu personau oddi ar Atodlen 6 pan fo’n briodol, er enghraifft os yw sefydliad wedi ei ddiddymu;

(c)diweddaru Atodlen 6 i adlewyrchu newidiadau mewn enwau ers i’r Mesur gael ei wneud.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.