Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016

Rhagolygol

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)

Dirymiadau a datgymhwysoLL+C

2.—(1Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.

(2Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 wedi eu datgymhwyso o ran Cymru i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau canlyniadolLL+C

3.  Mae Atodlen 3 (sy’n gwneud diwygiadau o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)

Arbedion a darpariaeth drosiannolLL+C

4.  Mae Atodlen 4 (sy’n gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Chwefror 2016