Rhagolygol
Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014LL+C
170.—(1) Mae rheoliad 3 (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin sylwadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol—
“(1) Rhaid gweithredu unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn unol â’r egwyddor, pan fo sylwadau yn cael eu gwneud gan berson ifanc categori 2 neu 3, neu o dan adran 174(3)(a) o’r Ddeddf honno, y dylai lles y person sy’n gwneud y sylwadau gael ei ddiogelu a’i hybu.”.
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—
“(3) Ym mharagraff (1) mae i “person ifanc categori 2 neu 3” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 170 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)