Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1).
Diwygio’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol
2.—(1) Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:
Tabl 1
(1) Swm Blaenorol | (2) Swm Newydd |
---|---|
£38.70 | £39.10 |
£58.70 | £59.30 |
£86.00 | £86.90 |
£194.10 | £196.00 |
£66.80 | £67.50 |
£84.80 | £85.60 |
£110.10 | £111.20 |
£213.40 | £215.50 |
£198.80 | £200.80 |
£56.40 | £57.00 |
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.50” rhodder “£12.60”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£15.20” rhodder “£15.40”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.30” rhodder “£4.40”;
(d)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.80” rhodder “£4.90”;
(e)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£63.60”, “£56.40” a “£30.50” rhodder “£64.20”, “£57.00” a “£30.80” yn eu trefn;
(f)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£63.60” rhodder “£64.20”;
(g)ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.50” rhodder “£14.60”; a
(h)ym mharagraff 2(b), yn lle “£37.00” rhodder “£37.40”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth drosiannol
3. Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3rd March 2016