xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
15 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Mawrth 2016
Yn dod i rym
12 Mai 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 66, 68, 74A a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion rheoli a rheoleiddio rhyddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symudiadau trawsffiniol(3), mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt(4), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(5) a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(6).
Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Bu ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod o lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7) neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.
1970 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Diwygiwyd adran 84 gan O.S. 2004/3254.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
O.S. 2003/2901. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2005/1971. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Nid yw’r dynodiad yn estyn i fesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) neu gynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.
O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn estyn i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, sylweddau gwella treuliadwyedd, neu sefydlogyddion fflora’r perfedd.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).