xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Dyletswyddau gweithredu a gorfodi

Dyletswydd i orfodi

21.  Dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal yw gweithredu a gorfodi darpariaethau’r Rheoliadau hyn a Rheoliad 183/2005.

Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru ac ardal pwerau swyddogion awdurdodedig

22.—(1Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, ac eithrio’r Ddeddf, wedi ei gorfodi’n annigonol o fewn ardal unrhyw awdurdod gorfodi, caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o bersonau i arfer, o fewn yr ardal honno, y pwerau sy’n arferadwy gan swyddogion awdurdodedig a benodir gan yr awdurdod. Os gofynnir i’r awdurdod wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod dan sylw ad-dalu i Weinidogion Cymru unrhyw dreuliau yr ardystia Gweinidogion Cymru eu bod yn dreuliau a dynnwyd ganddynt o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r ardal honno.

(2Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer pwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw fangre y tu allan i’r ardal y penodwyd y swyddog hwnnw ar ei chyfer, ac eithrio gyda chydsyniad yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre honno ynddi.

Diogelu swyddogion awdurdodedig sy’n gweithredu’n ddidwyll

23.—(1Nid yw swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn cysylltiad ag unrhyw weithred a wneir ganddo—

(a)wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu’r Rheoliadau hyn; a

(b)o fewn cwmpas cyflogaeth y swyddog,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu’n ddiffuant fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn peri bod gwneud y weithred yn ofynnol, neu’n rhoi iddo’r hawl i’w gwneud.

(2Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1) fel pe bai’n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi o unrhyw atebolrwydd mewn cysylltiad â gweithredoedd eu swyddogion.

(3Pan ddygir achos yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn cysylltiad â gweithred a wneir ganddo—

(a)wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu’r Rheoliadau hyn; ond

(b)y tu allan i gwmpas cyflogaeth y swyddog,

caiff yr awdurdod indemnio’r swyddog rhag y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnir ei dalu neu unrhyw gostau a dynnir os bodlonir yr awdurdod fod y swyddog yn credu’n ddiffuant fod y weithred y gwnaed cwyn yn ei chylch o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4At ddibenion y rheoliad hwn rhaid trin dadansoddwr amaethyddol fel swyddog awdurdodedig, pa un a yw ei benodiad yn un amser-cyflawn ai peidio.