Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fo corff yn gohebu
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn
Safon 2:

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad A,

(b)

gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)

anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd
Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—

(a)

yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny;

(b)

yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny.

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)
Safon 4:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5:Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.
Safon 6:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau
Safon 8:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.
Safon 9:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 10:Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol).
Safon 11:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12:Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 13:Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.
Safon 14:Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 15:Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 16:Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 17:Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff
Safon 18:Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).
Safon 19:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 20:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff
Safon 21:Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 22:Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.
3Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall
Safon 23:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 24:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.
Safon 24A:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
Safon 24B:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 25:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 25A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25CH:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 25D:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
4Safonau ynghylch corff yn cynnal cyfweliadau nad ydynt yn agored i’r cyhoedd
(1) Cyfweliadau rhwng corff a pherson
Safon 26

Os byddwch yn gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw P wedi ei arestio

rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

Safon 26A

Os byddwch wedi gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw P wedi ei arestio

a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safon 26B

Os byddwch wedi gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw P wedi ei arestio

a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

(2) Cyfweliadau rhwng corff a mwy nag un person
Safon 27

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio

rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a’i hysbysu y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

Safon 27A

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio

ac os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safon 27B

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad—

(a)

er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu

(b)

os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio

ac os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

5Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 28:Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 29:Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 30:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)

os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 31:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 32:Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
6Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 33:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 34:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
7Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 35:Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
8Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 36:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 37:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
9Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau
Safon 38:Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg.
Safon 39:Os byddwch yn llunio agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg.
Safon 40:Rhaid i unrhyw drwydded, hawlen neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 41:Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg.
Safon 42:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)

polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;

(b)

canllawiau a chodau ymarfer;

(c)

papurau ymgynghori.

Safon 43:Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 44:Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.
Safon 45:

Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 46:Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 47:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.
10Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni
Safon 48:Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 48A:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.
Safon 48B:Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).
11Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 49:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 50:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 51:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 52:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 53:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 54:Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
12Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 55:Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 56:Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
13Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth
Safon 57:Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.
14Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff
Safon 58:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 59:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
Safon 60:Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
15Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff
Safon 61:Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 62:Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg).
Safon 62A:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a—

(a)

bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu

(b)

eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg.

Safon 63:Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 64:Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
Safon 65:Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny.
16Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau
Safon 66:Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 67:Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
17Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 68:Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 69:Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 69A:Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 70:Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 71:

Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 72:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.
18Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau
Safon 73:Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 74:Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 74A:Rhaid ichi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).
Safon 75:Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 76:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 77:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.
19Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 78:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 79:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
20Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 80:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
21Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 81:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 82:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 83:Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan.
22Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff
Safon 84:Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

23Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

TABL 1

Colofn 1Colofn 2
RhesPrif safonSafon ddibynnol
(1)Ateb gohebiaeth
Safon 1Safon 7
(2)Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd
Safon 3Safon 6
(3)Gohebu â sawl person
Safon 4

Safon 6

Safon 7

(4)Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5

Safon 6

Safon 7

(5)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
Safon 7Safon 1
(6)Cael galwadau ffôn
Safon 9

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

(7)Cael galwadau ffôn
Safon 10 neu 11

Safon 9

Safon 14

(8)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg
Safon 14

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

a hefyd

Safon 16, a

Safon 17

(9)Cyfarfodydd ag un person
Safon 24

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 24A

Safon 24B

(10)Cyfarfodydd ag un personSafon 24
Safon 24A neu 24B
(11)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 25

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 25A

Safon 25B

Safon 25C

a hefyd un neu ragor o’r canlynol:

Safon 25CH

Safon 25D

(12)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 25A, 25B, 25C, 25CH neu 25DSafon 25
(13)Cyfweliadau ag un person
Safon 26

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 26A

Safon 26B

(14)

Cyfweliadau ag un person

Safon 26A neu 26B

Safon 26
(15)

Cyfweliadau â mwy nag un person

Safon 27

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 27A

Safon 27B

(16)Cyfweliadau â mwy nag un person
Safon 27A neu 27BSafon 27
(17)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 28Safon 31
(18)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 31Safon 28
(19)Dogfennau
Safon 38, 39, 40, 41, 42, 43 neu 45

Safon 46

Safon 47

(20)Ffurflenni
Safon 48

Safon 48A

Safon 48B

(21)Gwefannau
Safon 49, 50 neu 51Safon 52
(22)Arwyddion
Safon 58 neu 59Safon 60
(23)Derbynfa
Safon 61

Safon 64

Safon 65

(24)Derbynfa
Safon 62Safon 62A
(25)Derbynfa
Safon 63Safon 64
(26)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa
Safon 64

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 61

Safon 63

(27)Grantiau
Safon 69

Safon 69A

Safon 72

(28)Grantiau
Safon 70 neu 71

Safon 69

Safon 69A

(29)Contractau
Safon 74

Safon 74A

Safon 77

(30)Contractau
Safon 75 neu 76

Safon 74

Safon 74A

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

24Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
25

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)

cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

26Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
27

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

28

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad;

(ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu

(d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1);

(b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

(ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

29

(1Os bodlonir yr amodau yn is-baragraffau (a) i (c) neu os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)—

(a)Yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd.

(b)Yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng.

(c)Y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn daer.

(2Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(b) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.

30Os yw’r corff yn amddiffyn deunyddiau niwclear ar daith, nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw.
31At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
32

Nid yw safonau 8 i 11 a 14 i 17 yn gymwys i alwadau a wneir i’r rhifau ffôn a ganlyn—

(a)

999;

(b)

112;

(c)

0800 405040.

33Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
34Nid yw safonau 23, 24, 24A, 24B, 25, 25A, 25B, 25C, 25CH a 25D yn gymwys pan gynhelir y cyfarfod ar fyr rybudd (er enghraifft, pan fydd corff yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws).
35

Nid yw safon 34 yn gymwys i—

(a)

perfformiadau o gerddoriaeth;

(b)

cynyrchiadau artistig neu ddramatig;

(c)

seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad;

(ch)

unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar.

36

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 49 i 54 (gwefannau ac apiau), 55 a 56 (cyfryngau cymdeithasol) a 73 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)

fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

37At ddibenion safonau 38, 39, 42, 45 ac 48, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(3).
38

(1Nid yw safonau 48, 48A ac 48B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3Y ffurflenni yw—

(a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 135A, 136 a 137 mewn perthynas â recriwtio);

(b)ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 68 i 72 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau);

(c)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 73 i 77 mewn perthynas â thendro am gontract).

39Nid yw safonau 38, 43, 45, 46 a 47 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
40Nid yw safonau 38, 41, 42 a 45 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.
41

Nid yw safonau 49 i 53 (gwefannau) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 38 i 47 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 35 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).

42

(1At ddiben safon 54, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2Nid yw safon 54 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 35 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

43

At ddiben safonau 49 i 54 (gwefannau ac apiau) a safonau 55 a 56 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)

pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

44

(1Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 55 a 56 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2Nid yw safonau 49 i 54 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 55 a 56 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

45

Nid yw safonau 55 a 56 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 38 i 47 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 35 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

46At ddiben safon 57 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
47

At ddibenion safonau 61 i 65 (derbyn ymwelwyr)—

(a)

ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau – ond gweler is-baragraff (c);

(b)

ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw;

(c)

yn ddarostyngedig i baragraff nid yw derbynfa yn cynnwys yr ardal o orsaf heddlu lle y derbynnir person fel arfer er mwyn i swyddog dalfa (o fewn ystyr “custody officer” yn adran 36 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(4)) benderfynu o fewn ystyr adran 37 o’r Ddeddf a oes tystiolaeth ddigonol i gadw person am drosedd neu gyhuddo person o drosedd (“uned y ddalfa”);

(ch)

os yr un ardal yw uned y ddalfa a’r dderbynfa yn swyddfeydd corff, nid yw safonau 61 i 65 ond yn gymwys mewn perthynas â derbyn ymwelwyr yn yr ardal honno fel derbynfa.

48At ddibenion safonau 7, 66 a 67 ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
49

At ddibenion safon 73 (gwahoddiad i dendro)—

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(2Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)maint y deunydd;

(c)lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

50

(1At ddibenion safon 80, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 80 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

51

At ddibenion safonau 81, 82 a 83 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys—

(a)

gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad; neu

(b)

seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

52

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)

Deddf Seneddol; neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill