xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi |
Safon 158: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
8 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 159: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
9 | Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio |
Safon 160: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
10 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi |
Safon 161: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael— (a)ar eich gwefan, a (b)ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
11 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi |
Safon 162: | Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
12 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 163: | Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |