Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phersonau sy’n cael gwasanaethau
2.—(1) Er gwaethaf cychwyn darpariaethau’r Ddeddf gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, nid yw’r Ddeddf yn gymwys yn achos person y mae, yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym—
(a)cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef,
(b)taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae darparu cymorth neu wasanaethau yn cynnwys darparu cynhorthwy o dan adran 17(6) o Ddeddf Plant 1989.
(3) Ond bydd y Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag achos y person hwnnw o’r adeg pan fo’r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad o achos y person hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) neu (4).
(4) Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i oedolyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos yr oedolyn cyn 1 Ebrill 2017.
(5) Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos y plentyn cyn 1 Hydref 2016.
(6) Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (3), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos yr oedolyn hwnnw o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
(7) Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (4), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos y plentyn hwnnw o 1 Hydref 2016 ymlaen.
(8) Mewn cysylltiad â pherson y mae is-baragraff (5) neu (6) yn gymwys iddo, mae’r person i gael ei drin fel—
(a)un y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu gymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra o dan adran 32(4) o’r Ddeddf neu y mae’r awdurdod lleol fel arall o dan ddyletswydd i’w diwallu yn dilyn penderfyniad o dan adran 32(1)(b);
(b)un sydd â’r hawl i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu o dan y Ddeddf; ac
(c)un sydd wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf neu odani i alluogi’r person i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu,
hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos y person hwnnw.
(9) Mae awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos person—
(a)pan ddaw i’r casgliad nad oes ar y person anghenion am ofal a chymorth neu am gymorth (yn ôl y digwydd) yn unol â’r Ddeddf;
(b)ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath a’i fod yn mynd i ddiwallu rhai neu bob un o’r anghenion hynny, pan yw’n dechrau gwneud hynny; neu
(c)pan ddaw i’r casgliad, ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath, nad yw’n mynd i ddiwallu unrhyw un o’r anghenion hynny (pa un ai oherwydd nad yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu am ryw reswm arall).