xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 50 (Cy. 21)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

19 Ionawr 2016

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3Mae’r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(2), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio’n unol â rheoliadau 3 i 14.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”)—

(a)yn lle “a” rhodder “,”;

(b)ar ôl “Deddf Diwygio Lles 2007(3)” mewnosoder “a Deddf Pensiynau 2014(4)”.

4.  Yn rheoliad 8 (aelwydydd), ar ôl paragraff 2(a) mewnosoder—

(aa)wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd gan awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(5); neu.

5.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;

(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(b)ym mharagraff 15 (enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (b)(i) ar ôl “Ddeddf Plant (Yr Alban) Act 1995(6)” mewnosoder “, neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal)”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (d)(iv) hepgorer “neu”;

(iii)ar ôl paragraff (d)(v) mewnosoder—

(vi)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(vii)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014(7);;

(c)ym mharagraff 16 (incwm tybiannol: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “adran 55A” rhodder “adrannau 55A a 55AA”;

(ii)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2)(c) mewnosoder—

(d)pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014.;

(iv)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) hepgorer “ac”;

(v)yn is-baragraff (3)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;

(vi)ar ôl is-baragraff (3)(c) mewnosoder—

(d)yn achos pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 17(7) ac (8) o’r Ddeddf honno.;

(vii)yn is-baragraff (9) ar ôl “(10)” mewnosoder “, (11A), (11B)”;

(viii)ar ôl is-baragraff (11) mewnosoder—

(11A) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 8(7) o’r Ddeddf honno.

(11B) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014, sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan adran 8(2) o’r Ddeddf honno, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 8(7).

(11C) Yn is-baragraff (11A) ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 8 o Ddeddf Pensiynau 2014.

(11D) Yn is-baragraff (11B) ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014.;

(d)ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

(i)yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—

(c)sydd—

(i)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(8) (gwasanaethau lles);

(ii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(iii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(iv)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994(9);;

(ii)yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;

(e)ym mharagraff 20 (amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 19(11)(b)(i): anabledd : pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(ii)yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—

(vii)yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu;

(iii)yn is-baragraff (2) ar ôl “fel person dall” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;

(f)ym mharagraff 22 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)—

(i)yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;

(ii)yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC(10)”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(g)ym mharagraff 24(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “eithriad enillion isel” rhodder “trothwy elw isel”.

6.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;

(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (3), yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall”, rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—

(a)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);

(b)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(c)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(d)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.;

(iii)yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall” mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;

(iv)yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall”, rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw.”;

(c)ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.

7.  Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), yn lle paragraff 5(1)(b) rhodder—

(b)wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg, neu’r ddau wedi eu cofrestru fel personau â nam difrifol ar eu golwg, mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio, neu wedi eu hardystio, yn ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu.

8.  Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ar ôl paragraff 27 mewnosoder—

27A.  Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014 neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu’n methu â gwneud dewis, a bod cyfandaliad wedi ei wneud, swm sy’n hafal i

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu

(b)swm y cyfandaliad hwnnw,

ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn.;

(b)ym mharagraff 28—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;

(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(g)adran 33 o Ddeddf Gofal 2014.

9.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;

(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall”, rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(b)ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—

(i)yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—

(c)sydd—

(i)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);

(ii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(iii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(iv)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;;

(ii)yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall” mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;

(c)ym mharagraff 23 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)—

(i)yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;

(ii)yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(d)ym mharagraff 25(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”.

10.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 10 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd)—

(i)yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(ii)yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—

(vii)yn ddall ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu;

(iii)yn is-baragraff (2) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall” mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”.

(b)ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall” rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;

(c)ym mharagraff 13(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

11.  Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 1(a)(ii)—

(a)ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(b)ar ôl “amodau cyfrannu”, mewnosoder “neu i feddu ar y lleiafswm o flynyddoedd cymhwysol”.

12.  Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 31(a)—

(i)ym mharagraff (i) ar ôl “adran 23(2)(a)” mewnosoder “neu 22C”;

(ii)ar ddiwedd baragraff (ii) hepgorer “neu”;

(iii)ym mharagraff (iii) yn lle “; neu” rhodder “,”;

(iv)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu;

(b)ym mharagraff 32—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “;”;

(iii)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(g)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(h)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014.;

(c)yn lle paragraff 33 rhodder—

33.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol

(a)adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(11);

(b)adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(12);

(c)adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(13); neu

(d)(d) adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.;

(d)yn lle paragraff 34(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd, pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—

(a)adran 23C o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(c)adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.;

(e)yn lle paragraff 59 rhodder—

59.  Unrhyw daliad a wnaed

(a)fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013(14);

(b)o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(15) (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(c)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(16) (taliadau uniongyrchol);

(d)o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu

(e)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).

13.  Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn lle paragraff 23 rhodder—

23.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol

(a)adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;

(c)adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(d)adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.;

(b)yn lle paragraff 24(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—

(a)adran 23C o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(c)adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.;

(c)yn lle paragraff 47 rhodder—

47.(1) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.

(2) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.;

(d)yn lle paragraff 60 rhodder—

60.  Unrhyw daliad a wneir

(a)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);

(b)fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;

(c)o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(d)o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu

(e)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).

14.  Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm grant)—

(a)yn is-baragraff (2)(i) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (2)(i) mewnosoder—

(j)o fwrsari addysg uwch i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 a wnaed o dan adran 110 neu 112 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 116 o’r Ddeddf honno.

(2A) Yn is-baragraff (2)(j) mae i “person ifanc categori 3” a “person ifanc categori 4” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

15.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(17) wedi ei ddiwygio’n unol â rheoliadau 16 i 31.

16.  Ym mharagraff 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”)—

(a)yn lle “a” rhodder “,”;

(b)ar ôl “Deddf Diwygio Lles 2007” mewnosoder “a Deddf Pensiynau 2014”.

17.  Ym mharagraff 8 (aelwydydd), ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—

(aa)wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu.

18.  Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion : pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;

(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;

(c)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;

(f)yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”.

19.  Ym mharagraff 41 (enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995” mewnosoder “, neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;

(b)yn is-baragraff (2)(d)—

(i)ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “neu”;

(ii)ar ôl paragraff (v) mewnosoder—

(vi)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(vii)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014;.

20.  Ym mharagraff 42 (incwm tybiannol: pensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “adran 55A” rhodder “adrannau 55A a 55AA”;

(b)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

(c)ar ôl is-baragraff (2)(c) mewnosoder—

(d)pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014.;

(d)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) hepgorer “ac”;

(e)yn is-baragraff (3)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;

(f)ar ôl is-baragraff (3)(c) mewnosoder—

(d)yn achos pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 17(7) ac (8) o’r Ddeddf honno.;

(g)yn is-baragraff (9) ar ôl “(10)” mewnosoder “, (11A), (11B)”;

(h)ar ôl is-baragraff (11) mewnosoder—

(11A) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 8(7) o’r Ddeddf honno.

(11B) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014, sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan adran 8(2) o’r Ddeddf honno, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 8(7).

(11C) Yn is-baragraff (11A), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 8 o Ddeddf Pensiynau 2014.

(11D) Yn is-baragraff (11B), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014.

21.  Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—

(a)yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—

(c)sydd—

(i)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);

(ii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(iii)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(iv)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;;

(b)yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall” mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”.

22.  Ym mharagraff 57 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)

(a)yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;

(b)yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”.

23.  Ym mharagraff 59(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”.

24.  Ym mharagraff 73 (cyfrifo incwm grant)—

(a)yn is-baragraff (2)(i) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (2)(i) mewnosoder—

(j)o fwrsari addysg uwch i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 a wnaed o dan adran 110 neu 112 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 116 o’r Ddeddf honno.”

(2A) Yn is-baragraff (2)(j) mae i “person ifanc categori 3” a “person ifanc categori 4” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

25.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;

(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—

(a)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);

(b)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(c)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(d)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.;

(iii)yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall”, mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;

(iv)yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall” rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;

(c)ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.

26.  Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 10 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd)—

(i)yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn y wladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(ii)yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—

(vii)yn ddall ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu

(iii)yn is-baragraff (2), yn lle “gofrestru fel person dall” rhodder “gofrestru fel person dall neu berson â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod” rhodder “fel y cyfryw ac fel person sy’n bodloni’r amod”;

(b)ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall”, rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;

(c)ym mharagraff 13(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”.

27.  Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr) yn lle paragraff 5(1)(b) rhodder—

(b)wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg, neu’r ddau wedi eu cofrestru fel personau â nam difrifol ar eu golwg, mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio, neu wedi eu hardystio, yn ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu.

28.  Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 1(a)(ii)—

(a)ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;

(b)ar ôl “amodau cyfrannu”, mewnosoder “neu i feddu ar y lleiafswm o flynyddoedd cymhwysol”.

29.  Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 31(a)—

(i)ym mharagraff (i) ar ôl “adran 23(2)(a)” mewnosoder “neu 22C”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “neu”;

(iii)ar ddiwedd paragraff (iii) hepgorer “neu”;

(iv)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ; neu;

(b)ym mharagraff 32—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “;”;

(iii)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(g)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(h)y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014.;

(c)yn lle paragraff 33 rhodder—

33.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol

(a)adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;

(c)adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(d)adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.;

(d)yn lle paragraff 34(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd, pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—

(a)adran 23C o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(c)adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.;

(e)yn lle paragraff 59 rhodder—

59.  Unrhyw daliad a wnaed

(a)fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;

(b)o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(c)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);

(d)o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu

(e)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).

30.  Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ar ôl paragraff 27 mewnosoder—

27A.  Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014 neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu’n methu â gwneud dewis, a bod cyfandaliad wedi ei wneud, swm sy’n hafal i

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu

(b)swm y cyfandaliad hwnnw,

ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn.;

(b)ym mharagraff 28—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;

(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(g)adran 33 o Ddeddf Gofal 2014.

31.  Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn lle paragraff 23 rhodder—

23.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol

(a)adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;

(b)adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;

(c)adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(d)adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.;

(b)yn lle paragraff 47 rhodder—

47.(1) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.

(2) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.;

(c)yn lle paragraff 60 rhodder—

60.  Unrhyw daliad a wneir

(a)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);

(b)fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;

(c)o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd);

(d)o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu

(e)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

19 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun a fydd yn pennu pa ostyngiadau a fydd yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn nodi hefyd y materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae’r diwygiad yn rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “y Deddfau budd-dal” a ddefnyddir yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Pensiynau 2014 (“y Ddeddf Pensiynau”). Mae’r un diwygiad wedi ei wneud i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 16.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wnaed gan reoliadau 4, 5(a)(vi), (b), (d), (e)(ii) a (iii), 6(b) a (c), 7, 8(b), 9(a)(vi) a (b), 10(a)(ii) a (iii), (b) ac (c), 12, 13 a 14 wedi eu gwneud o ganlyniad i ddarpariaeth yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Gofal 2014 (“Deddfau 2014”).

Mae’r mwyafrif o’r diwygiadau yn disodli’r dull presennol o benderfynu a yw person yn ddall â’r amod bod yn rhaid i berson fod naill ai’n ddall neu fod â nam difrifol ar ei olwg.

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 5(b)(iii), 12 a 13(a), (b) a (d) yn adlewyrchu’r trefniadau newydd sy’n bodoli at ddibenion diwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan Ddeddfau 2014.

Mae’r diwygiad a wnaed gan reoliad 14 yn adlewyrchu’r taliadau bwrsari y caniateir eu gwneud bellach o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r holl ffactorau hyn yn berthnasol at ddibenion cyfrifo swm y gostyngiad y mae gan geisydd hawl i’w gael. Mae’r un diwygiadau wedi eu gwneud mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17, 18(f), 19, 21, 24, 25(b) a (c), 26(a)(ii) a (iii), (b) a (c),, 27, 29, 30(b) a 31.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wnaed gan reoliadau 5(c), 5(e)(i), 5(f)(ii), 8(a), 9(c)(ii), 10(a)(i) ac 11 wedi eu gwneud o ganlyniad i Ran 1 o’r Ddeddf Pensiynau. Maent yn mewnosod cyfeiriadau at bensiwn gwladwriaeth lle y mae cyfeiriadau ar hyn o bryd at bensiwn ymddeol. Mae rheoliad 5(c)(i) yn mewnosod cyfeiriad at yr adran 55AA newydd o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, sydd yn ei thro yn ymwneud â phensiwn ychwanegol a rennir oherwydd credyd pensiwn gwladwriaeth newydd. Mae’r un diwygiadau wedi eu gwneud mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 20, 22(b), 26(a)(i), 28 a 30.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wnaed gan reoliadau 5(a)(i) i (v), 6(a) ac 9(a)(i) i (v) yn cynyddu ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a oes gan berson hawl i gael gostyngiad a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Mae’r un diwygiadau wedi eu gwneud mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(a) i (e) ac 25(a).

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wnaed gan reoliadau 5(f)(i) ac (g) a 9(c)(i) a (d) wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2015 a ddiwygiodd adran 11 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel bod yr eithriad enillion isel yn cael ei alw bellach yn drothwy elw isel. Mae’r un diwygiadau wedi eu gwneud mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 22(a) a 23.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.

(10)

Ystyr “DCBNC” (“the SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ac ym mharagraff 2 o’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.