Rheilffyrdd
9.—(1) Nid yw adeiladu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo’r rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu)—
(a)yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (2)),
(b)yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac
(c)yn cynnwys darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,
yn ddarostyngedig i baragraff (5).
(2) Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei hadeiladu) yn rhannol yng Nghymru, ni fydd adeiladu’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae darn o drac di-dor sy’n fwy na dau gilometr o hyd yng Nghymru.
(3) Nid yw addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo—
(a)y rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (4)),
(b)y rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac
(c)yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,
yn ddarostyngedig i baragraff (5).
(4) Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei haddasu) yn rhannol yng Nghymru nid yw’r addasiad i’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae’r darn o drac addasedig yng Nghymru yn ddarn di-dor o fwy na dau gilometr.
(5) Nid yw adeiladu neu addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) i’r graddau y mae’r rheilffordd yn ffurfio rhan (neu y bydd yn ffurfio rhan ar ôl ei hadeiladu) o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithredwr cymeradwy” (“approved operator”) yw person—
(a)
a awdurdodwyd i fod yn weithredwr rhwydwaith gan drwydded a roddwyd o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993() (trwyddedau ar gyfer gweithredu asedau rheilffordd), neu
(b)
sydd yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr cwmni sydd yn berson o’r fath.
mae i “is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr” yr ystyr a roddir i “wholly-owned subsidiary” yn Neddf Cwmnïau 2006();
ystyr “rheilffordd” yw—
(c)
system drafnidiaeth sy’n defnyddio dull arall o drafnidiaeth gyfeiriedig, nad yw’n system o gerbydau troli.
mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993();
mae “trac addasedig” (“altered track”) yn cynnwys trac ychwanegol, amnewidiol neu wyredig.