Offerynnau Statudol Cymru
2016 Rhif 56 (Cy. 26)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016
Gwnaed
27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Chwefror 2016
Yn dod i rym
1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau: a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 60 o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 ac Atodlen 1 iddi(1) ac adrannau 321B a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3); a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z1, 61Z2(4), 62G(5), 319B(6) a 323A(7) o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(2) o Atodlen 4D iddi(8) a chan adran 57 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(9); ac a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 17, 24, 40 a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(10), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(11), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1979 p. 46. Gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 321B gan adran 81 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Diwygiwyd adran 333 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) a pharagraff 6 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnodion priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adrannau 61Z1 a 61Z2 gan adran 18 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Mewnosodwyd adran 62G gan adran 20 o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 319B gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2773 (Cy. 280)) ac fe’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 20 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 323A gan adran 50 o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd Atodlen 4D gan adran 26 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi.
2006 p. 26. Diffinnir “appropriate national authority” (“awdurdod cenedlaethol priodol”) yn adran 61(1) o’r Ddeddf honno.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.