Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 7Gwrandawiadau

Cymhwyso Rhan 7

20.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais neu unrhyw fater i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal gwrandawiad.

(2Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad;

(b)yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail gwrandawiad; ac

(c)Gweinidogion Cymru wedi peri cynnal gwrandawiad yn unol â rheoliad 18(5),

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Dyddiad a lleoliad y gwrandawiad

21.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—

(a)peidio â bod yn hwyrach na deng wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; a

(b)bod o leiaf un wythnos ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfir yn unol â rheoliad 15(1).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal y gwrandawid ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r man lle cynhelir y gwrandawiad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r gwrandawiad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(6Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal y gwrandawiad, i’r ceisydd, i’r awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

(7Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o ddeng wythnos a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio, ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal gwrandawiad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad

22.—(1Oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo’n wahanol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—

(a)arddangos a chynnal hysbysiad o’r gwrandawiad yn y ffurf a ddarperir gan Weinidogion Cymru mewn man amlwg, neu (yn achos cais am ganiatâd ar gyfer gwaith llinellol ar y tir sy’n fwy na phum cilometr o hyd) fesul cyfwng o ddim mwy na phum cilometr, ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu mor agos ato ag sy’n rhesymol ymarferol;

(b)arddangos a chynnal yr hysbysiad o’r gwrandawiad mewn un neu ragor o leoedd lle’r arddangosir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal y mae’r cynigion sydd yn y cais yn ymwneud â hi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r gwrandawiad drwy hysbysebu yn lleol yn yr ardal y bwriedir i’r cynigion sydd yn y cais gael effaith ynddi, gan gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “drwy hysbysebu yn lleol” (“by local advertisement”) yw—

(a)drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan.

(4Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan reoliad 21(5), mae paragraff (1) yn cael effaith gydag amnewidiadau fel a ganlyn—

(a)yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw; a

(b)yn lle cyfeiriadau at y cais, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r cais a fydd yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.

(5Rhaid i unrhyw hysbysiad a arddangosir yn unol â pharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld a’i ddarllen gan aelodau o’r cyhoedd.

(6Os digwydd i’r hysbysiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol nac unrhyw fwriad ganddo, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn dechrau’r gwrandawiad, ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol, am y rheswm hwnnw, ei drin fel pe na bai wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (5) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oedd angen, ei amnewid.

(7Rhaid i hysbysiad o wrandawiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) gynnwys y canlynol—

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad;

(b)datganiad bod y cais wedi ei wneud o dan adran 62D o Ddeddf 1990;

(c)disgrifiad o’r cynigion a gynhwysir yn y cais, sy’n ddigonol ar gyfer adnabod lleoliad y datblygiad arfaethedig, drwy gyfeirio neu heb gyfeirio at fap penodedig;

(d)disgrifiad o unrhyw gydsyniadau eilaidd y mae’r penderfyniad mewn perthynas â hwy i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru; a

(e)manylion man lle y gellir edrych ar gopi o’r cais.

(8Pan fo’r awdurdod wedi bodloni gofynion paragraff (1), rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny, o fewn cyfnod o bum diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr arddangosir yr hysbysiad.

Penodi asesydd

23.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 14 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gwrandawiad, o enw’r asesydd a’r materion y bydd yr asesydd yn cynghori’r person penodedig yn eu cylch.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad

24.—(1Y personau a gaiff gymryd rhan yn y gwrandawiad yw’r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson a wahoddir gan Weinidogion Cymru i gymryd rhan.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.

(3Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hunan neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Absenoldeb, gohirio, etc.

25.—(1Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen â chynnal gwrandawiad yn absenoldeb y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ohirio gwrandawiad o bryd i’w gilydd, ac os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.

Gweithdrefn mewn gwrandawiad

26.—(1Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid cynnal gwrandawiad ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, a rhaid peidio â chaniatáu croesholi.

(3Pan fo’r person penodedig o’r farn bod croesholi yn angenrheidiol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r ceisydd) a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

(4Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn y gwrandawiad.

(5Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn gwrandawiad i alw tystiolaeth.

(6Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi neu ddangos tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater arall a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(9Caiff y person penodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn gwrandawiad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(10Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall a gaiff cyn cau’r gwrandawiad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.

(11Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i gyflwyno cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(12Yn ddarostyngedig i baragraff (7) caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad.

(13Caiff unrhyw berson sydd â hawl, neu a ganiateir, i wneud sylwadau ar lafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hunan, neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall

Gwrandawiad yn amhriodol

27.  Ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn gwrandawiad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r gwrandawiad a naill ai trefnu i gynnal ymchwiliad yn ei le, neu benderfynu ystyried y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad

28.—(1Ar ôl cau’r gwrandawiad—

(a)caiff yr asesydd (os penodwyd un) wneud adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i gynorthwyo gyda hwy;

(b)rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a chynnwys ynddo gasgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(2Pan fo asesydd yn gwneud adroddiad yn unol â pharagraff (1)(a), rhaid i’r person penodedig—

(a)ei atodi ynghlwm wrth adroddiad y person penodedig ei hunan; a

(b)datgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd, a phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, ddatgan y rhesymau dros yr anghytundeb hwnnw.

(3Wrth wneud eu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt ar ôl cau’r gwrandawiad.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cau’r gwrandawiad, yn anghytuno ag argymhelliad a wnaed gan y person penodedig, oherwydd eu bod—

(a)yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, neu

(b)wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi).

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ac a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

(b)rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(6Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (5)(a).

(7Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol, beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor.

(8Pan ailagorir gwrandawiad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

(a)rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig; a

(b)mae rheoliad 26 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

(9Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (6) o’r rheoliad hwn.

Penderfynu

29.  Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cais—

(a)ar ôl cau’r gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad a ailagorwyd; neu

(b)os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill