Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

RHAN 9LL+CPenderfyniadau a ddilëir

Gweithdrefn sydd i’w dilyn ar ôl dileu penderfyniadLL+C

37.—(1Pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru i ganiatáu neu wrthod cais wedi ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys, a phan fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad—

(a)rhaid iddynt anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru;

(b)rhaid iddynt roi cyfle i’r personau hynny wneud sylwadau ysgrifenedig i’w cyflwyno iddynt mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac

(c)fel yr ystyriant yn briodol, cânt—

(i)peri ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad;

(ii)yn achos gwrandawiad, peri cynnal ymchwiliad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

(iii)yn achos ymchwiliad, peri cynnal gwrandawiad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

(iv)peri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad (pan na chynhaliwyd yr un yn flaenorol); neu

(v)penderfynu’r mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad, mae rheoliadau 21 a 32 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd.

(3Rhaid i’r personau hynny sy’n gwneud sylwadau sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 37 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)