xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—[F1(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan Weinidogion Cymru.]
(1) Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn tueddu i anghytuno ag argymhelliad yn adroddiad y person penodedig oherwydd eu bod—
(a)yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ynglŷn ag unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir ganddo, neu
(b)wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyrraedd penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—
(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a
(b)cynnig cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad o dan baragraff (3).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru beri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad os byddant wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.
(6) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru.
(7) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 18(A1) wedi ei fewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/288), rhlau. 1, 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)