Newidiadau dros amser i: Adran 18A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2019.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, Adran 18A.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[Adroddiad: llinellau trydanLL+C
18A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.
(2) Rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig y mae’n rhaid iddo gynnwys casgliadau a phenderfyniad y person penodedig.
(3) Caiff y person penodedig beri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal os, ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig, yw’r person penodedig o’r farn y dylid cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.
(4) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i’w gynnal, rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch at ddibenion ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig.
(5) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau pellach sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan y person penodedig yn y gwahoddiad o dan baragraff (4).
(6) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw sylwadau pellach a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (5), fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.]
Yn ôl i’r brig