Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Dyddiad a lleoliad y gwrandawiad

21.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—

(a)peidio â bod yn hwyrach na deng wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; a

(b)bod o leiaf un wythnos ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfir yn unol â rheoliad 15(1).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal y gwrandawid ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r man lle cynhelir y gwrandawiad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r gwrandawiad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(6Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal y gwrandawiad, i’r ceisydd, i’r awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

(7Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o ddeng wythnos a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio, ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal gwrandawiad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.