Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Gwrandawiad yn amhriodolLL+C

27.  Ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn gwrandawiad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r gwrandawiad a naill ai trefnu i gynnal ymchwiliad yn ei le, neu benderfynu ystyried y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 27 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)