xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
36.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i unrhyw berson a ofynnodd am ei hysbysu o’r penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn tybio y byddai’n rhesymol ei hysbysu.
(2) Ystyrir bod hysbysiad o benderfyniad a rhesymau o dan y rheoliad hwn wedi ei roi i berson pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a
(b)y person wedi ei hysbysu o’r canlynol—
(i)cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;
(ii)cyfeiriad y wefan.
(3) Pan nad anfonir copi o adroddiad y person penodedig gyda’r hysbysiad o’r penderfyniad, rhaid anfon yr hysbysiad ynghyd â datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac o unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodwyd wrth adroddiad y person penodedig; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad ofyn i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.
(5) At ddibenion paragraff (4), ystyrir bod y cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person hwnnw wedi ei hysbysu o’r canlynol—
(a)cyhoeddi’r dogfennau perthnasol ar wefan;
(b)cyfeiriad y wefan; ac
(c)ym mhle ar y wefan y gellir cael mynediad i’r dogfennau a sut i gael mynediad iddynt.