Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Rheoliad 47

ATODLEN 7LL+CCaniatâd cynllunio

RHAN 1LL+CAddasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae darpariaethau canlynol Deddf 1990 yn gymwys gydag addasiadau fel bod cyfeiriadau at “local planning authority” i’w trin fel cyfeiriadau at “the Welsh Ministers”—LL+C

(a)adran 62(1);

(b)adran 62(3);

(c)adran 65(5);

(d)adran 70(1);

(e)adran 70(2)(1);

(f)adran 70A(1)(2);

(g)adran 70A(2);

(h)adran 71(1)(3);

(i)adran 71(2);

(j)adran 72(1);

(k)adran 73(2);

(l)adran 73A(1)(4); ac

(m)adran 327A(2)(5).

(2Pan fo unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at ddarpariaeth a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, rhaid darllen y cyfeiriad, mewn perthynas â chais o dan adran 62D o’r Ddeddf honno, fel cyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i haddaswyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CAddasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(6) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C

(2Nid yw erthyglau 1 i 23, 25 i 28 a 31 i 33 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

3.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C

(2Nid yw erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) ac erthygl 30 (hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gwnaed diwygiadau i adran 70(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 70A gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Gwnaed diwygiadau i adran 70A nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Amnewidiwyd adran 71(1) a (2) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.

(4)

Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o’r Ddeddf honno a pharagraff 16 o Atodlen 7 iddi.

(5)

Mewnosodwyd adran 327A gan adran 42(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

(6)

O.S. 2012/801 (Cy. 110). Gwnaed diwygiadau i’r Gorchymyn hwnnw nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.