Rheoliad 48
ATODLEN 8LL+CPriffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad
Addasu is-ddeddfwriaethLL+C
1.—(1) Mae’r darpariaethau canlynol o’r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gorchmynion o dan adrannau 247(1), 248(2) a 251(1) o Ddeddf 1990, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C
(2) At ddiben rheoliadau 17, 20 a 30, mae Rhannau 6, 7 ac 8 hefyd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad cyn gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.
(3) Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18 (adroddiad) a 28 (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau ac argymhellion y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.
(4) Rhaid darllen rheoliad 18(3)(a) fel pe rhoddid “personau a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle “personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig”.
(5) Rhaid darllen rheoliad 21(5) fel pe rhoddid “gorchymyn arfaethedig o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle’r cyfeiriad at “y cais”.
(6) Rhaid i hysbysiad o dan reoliad 22(7) gynnwys, yn ychwanegol, y materion hynny a restrir yn adran 252(1) o Ddeddf 1990.
(7) Rhaid darllen rheoliad 28 fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (3), yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt” rhodder “unrhyw wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990 sy’n cyrraedd”;
(b)ym mharagraff (5)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”;
(c)ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)