Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2019.
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, ATODLEN 8 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 48
1.—(1) Mae’r darpariaethau canlynol o’r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gorchmynion o dan adrannau 247(1), 248(2) a 251(1) o Ddeddf 1990, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C
(2) At ddiben rheoliadau 17, 20 a 30, mae Rhannau 6, 7 ac 8 hefyd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad cyn gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.
(3) Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18 (adroddiad) a 28 (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau ac argymhellion y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.
[F1(3A) Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18A (adroddiad: llinellau trydan) neu reoliad 28A (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad: penderfyniad gan berson penodedig) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau a phenderfyniad y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad neu benderfyniad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990.]
(4) Rhaid darllen rheoliad 18(3)(a) fel pe rhoddid “personau a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle “personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig”.
(5) Rhaid darllen rheoliad 21(5) fel pe rhoddid “gorchymyn arfaethedig o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle’r cyfeiriad at “y cais”.
(6) Rhaid i hysbysiad o dan reoliad 22(7) gynnwys, yn ychwanegol, y materion hynny a restrir yn adran 252(1) o Ddeddf 1990.
(7) Rhaid darllen rheoliad 28 fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (3), yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt” rhodder “unrhyw wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990 sy’n cyrraedd”;
(b)ym mharagraff (5)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”;
(c)ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”.
[F2(8) Rhaid darllen rheoliad 28A fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (4) yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall” rhodder “wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”;
(b)ym mharagraff (5) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a wrthwynebodd wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”;
(c)ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a wrthwynebodd wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 8 para. 1(3A) wedi ei fewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/288), rhlau. 1, 2(14)(a)
F2Atod. 8 para. 1(8) wedi ei fewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/288), rhlau. 1, 2(14)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys