- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
52.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—
ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—
paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;
paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu
paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,
am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;
ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—
pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a
pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;
ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—
paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);
paragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu
paragraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiad cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau)(1);
ystyr “caniatâd dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw caniatâd a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;
ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;
ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 7, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a)cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;
(b)cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;
(c)datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;
(d)awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;
(e)person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;
(f)person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;
(g)penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a
(h)rhoi caniatâd dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd dilynol.
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(2) yn gymwys iddo;
(b)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.
Diwygiwyd paragraff 6 gan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys